Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Llun, 26 Ionawr 2026
Amser:
14.00
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch a:
Gareth Price - Clerc y Pwyllgor
0300 200 6565
Deisebau@senedd.cymru
------
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
Nid oedd ymddiheuriadau.
Gwnaed datganiadau o fuddiant ar y pwyntiau perthnasol yn y trafodion – Eitemau 2.1, 2.3 a 3.1.
Datganodd Rhys ap Owen AS fuddiant perthnasol yn unol â Rheol Sefydlog 17.42A – mae’n adnabod y Deisebydd ac roedd wedi bod yn rhan o’r ymgyrch i gadw’r ysgol ar agor.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a mynegodd eu gobaith y byddai'r ysgol yn llwyddo i sicrhau cyllid am dair blynedd. Diolchodd y Pwyllgor i'r prif ddeisebydd, yn ogystal â disgyblion ac athrawon yr ysgol, a chytunodd i gau'r ddeiseb.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb, gan nodi'r adroddiadau a gyhoeddwyd gan Bwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd ar gymorth gofal plant, a'r gwahaniaethau rhwng y ddarpariaeth yng Nghymru a Lloegr. Diolchodd y Pwyllgor i'r deisebwyr am dynnu sylw at fater pwysig iawn, gan nodi y byddai gofal plant yn cael ei drafod ym maniffestos y pleidiau cyn etholiadau'r Senedd, a chytunodd i gau'r ddeiseb.
Datganodd Vaughan Gething AS fuddiant perthnasol yn unol â Rheol Sefydlog 17.42A. Cadarnhaodd na fyddai’n cymryd rhan wrth i’r Pwyllgor drafod y ddeiseb, gan ei fod yn adnabod y deisebydd. Roedd yn ymwybodol o'r materion a godwyd, yn enwedig y rheini sy'n ymwneud â Llyn Cosmeston, sydd o fewn ei etholaeth. Mae wedi ymgymryd â gwaith achos ar y mater.
Datganodd Joel James AS fuddiant perthnasol yn unol â Rheol Sefydlog 17.42A. Cysylltwyd ag ef, hefyd, ynghylch y mater, a oedd o fewn ei ranbarth.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb. Cydnabu’r aelodau gryfder y teimladau ar y mater, a mynegodd Joel James AS gefnogaeth i’r ddeiseb. Fodd bynnag, nodwyd hefyd fod y Bil Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru) yn destun gwaith craffu ar hyn o bryd gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith. Yng ngoleuni hyn, cytunodd y Pwyllgor i gyfeirio'r ddeiseb at y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith i godi ymwybyddiaeth, diolchodd i'r deisebydd am gyflwyno'r mater, a chytunodd i gau'r ddeiseb.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb, gydag Aelodau'n mynegi barn groes ar bolisi cenedl lloches a'i weithrediad. Cytunwyd, felly, i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb. Ar y sail bod y materion a godwyd yn rhai a gedwir yn ôl, i raddau helaeth, tra bod ymateb Llywodraeth Cymru yn tynnu sylw at fwy o gyllid ar gyfer camau gweithredu datganoledig ar gydlyniant cymdeithasol, cytunodd y Pwyllgor i ddiolch i'r deisebydd a chau'r ddeiseb.
Datganodd Carolyn Thomas AS fuddiant perthnasol yn unol â Rheol Sefydlog 17.42A oherwydd bod cyfeiriad wedi'i wneud at y Gronfa Ffyniant Gyffredin. Mae hi'n cadeirio'r grŵp rhanddeiliaid ar gyfer y Gronfa Twf Lleol (sef olynydd y Gronfa Ffyniant Gyffredin). Datganodd Carolyn Thomas AS hefyd ei bod yn aelod o Uno’r Undeb.
Datganodd AS Vaughan Gething fuddiant perthnasol yn unol â Rheol Sefydlog 17.42A, sef ei fod wedi cyfarfod â'r deisebydd, a thynnodd sylw at ei gofrestr o fuddiannau gan ddatgan ei fod yn aelod o sawl undeb llafur, gan gynnwys Unison, ond ddim cangen Castell-nedd Port Talbot.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd yr ymateb gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot. Cydnabu’r aelodau bryderon parhaus ynghylch y newid o’r Gronfa Ffyniant Gyffredin i’r Gronfa Twf Lleol, ac effaith y modd y mae dyraniadau cyllid yn cael eu gwneud ar gyflogaeth leol. Materion lleol i awdurdodau lleol oedd y rhain, roedd y Prif Weinidog yn ymwneud â rheoli'r cyfnod pontio, ac roedd yn debygol o fod yn fater i Aelodau'r Seithfed Senedd a'r pwyllgor pwnc yn y dyfodol. Yn sgil hyn, diolchodd y Pwyllgor i'r deisebydd a chytunodd i gau'r ddeiseb.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd, er bod y materion a godwyd—yn enwedig ynghylch pensiynau llywodraeth leol—yn bwysig, eu bod yn bennaf y tu allan i gylch gwaith y Pwyllgor. Cytunwyd i gau'r ddeiseb, ond wrth wneud hynny i anfon gohebiaeth y deisebydd ymlaen at Bartneriaeth Pensiwn Cymru a rhannu unrhyw ymateb gyda'r deisebydd. Cytunodd y Pwyllgor hefyd i nodi'r mater yn ei adroddiad gwaddol i’w ystyried gan y Seithfed Senedd.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chroesawodd ymateb y bwrdd iechyd ar yr achos busnes sy'n cael ei ddatblygu ar gyfer y gwasanaeth dan sylw. Gobeithiwyd y byddai llwyddiant y cynllun peilot yn cael ei nodi a bod y ddeiseb wedi cyflawni ei nod. Diolchodd y Pwyllgor i'r deisebydd a chau’r ddeiseb. Wrth wneud hynny, cytunwyd i anfon gohebiaeth y Bwrdd Iechyd at y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol er mwyn codi ymwybyddiaeth.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd, yn ei gyfarfod diwethaf, y cytunwyd i gadw'r ddeiseb ar agor wrth rannu sylwadau'r deisebydd gyda'r bwrdd iechyd. Ar ôl cael ymateb manwl gan y bwrdd iechyd, yn tynnu sylw at heriau sylweddol, a rhannu hynny gyda'r deisebydd, cadarnhaodd y Pwyllgor ei benderfyniad i ddiolch i'r deisebydd a chau'r ddeiseb.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a'r ymateb gan y Gweinidog a oedd yn tynnu sylw at ymgynghoriad ar ddiogelu. Nododd yr Aelodau y byddai gan y deisebydd gyfle i godi’r materion yn yr ymgynghoriad cyhoeddus ar ddiogelu. Yng ngoleuni hyn, cytunodd y Pwyllgor i anfon gohebiaeth bellach y deisebydd at yr Ysgrifennydd Cabinet i'w hystyried ar gyfer y broses ymgynghori, diolchodd i’r deisebydd, gydag anogaeth i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad, a chau'r ddeiseb.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd y gwaith sy'n cael ei wneud gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru i hyrwyddo cyfranogiad menywod a merched mewn pêl-droed. Cytunodd yr Aelodau i anfon cwestiynau'r deisebydd ymlaen at Gymdeithas Bêl-droed Cymru, fe wnaethant ganmol y deisebwyr am godi'r mater ar ran menywod a merched a chydraddoldeb, a chau'r ddeiseb.
Nododd yr Aelodau’r papurau.
Cytunwyd ar y cynnig gweithdrefnol.